
Gall siarad â’ch plentyn am bethau anodd neu sensitif deimlo’n frawychus, yn enwedig pan fydd eu hymddygiad wedi peri pryder, neu pan fydd rhywbeth eisoes wedi digwydd. Efallai y byddwch yn poeni am ddweud y peth anghywir, gwneud pethau’n waeth, neu beidio â gwybod beth i’w wneud os bydd y sgwrs yn mynd yn emosiynol.
Mae’r offer hyn yma i helpu. Nid sgriptiau ydynt i’w dilyn air am air. Maent yn ddulliau, cwestiynau a fframweithiau a all wneud i sgyrsiau deimlo’n fwy sefydlog a hydrin. Gallwch fanteisio ar ba un bynnag sy’n teimlo’n fwyaf perthnasol i’ch sefyllfa, a’u defnyddio ar unrhyw oedran neu gyfnod.
Nid oes angen i chi gael yr holl atebion. Gall eiliadau bach, tawel o chwilfrydedd agor y drws i sgyrsiau mwy dros amser.
Mae’r dudalen hon yn ymdrin â:
Cyn i chi feddwl am beth i’w ddweud, mae’n werth cymryd eiliad i sylwi ar sut rydych chi’n teimlo. Gall rhai pynciau, rhyw, cam-drin, pornograffi, trais, godi emosiynau cryf neu hyd yn oed atgofion o’ch profiadau eich hun. Os yw pwnc yn achosi gofid sylweddol i chi neu’n gwneud i chi deimlo fel cau i lawr, mae hynny’n ddealladwy ac yn werth rhoi sylw iddo.
Mae eich gallu i aros yn sefydlog yn un o’r pethau pwysicaf rydych chi’n ei gynnig i’r sgyrsiau hyn. Mae systemau nerfol pobl ifanc yn cael eu dylanwadu gan yr oedolion o’u cwmpas. Mae presenoldeb tawel, rheoledig yn arwydd o ddiogelwch hyd yn oed pan fo’r pwnc yn anodd.
Rheoli Eich Hun
Gall cefnogi plentyn drwy bryder, gwrthdaro, neu ymddygiad anodd gymryd toll wirioneddol. Pan fo emosiynau’n uchel, mae’n gwbl normal i’ch ymateb straen chi eich hun gael ei actifadu. Efallai y byddwch yn teimlo’n llethol, yn amddiffynnol, yn bryderus, neu’n ansicr beth i’w ddweud nesaf. Nid yw dim o hyn yn golygu eich bod yn gwneud unrhyw beth o’i le. Mae’n golygu eich bod yn ddynol.
Mae llawer o rieni’n poeni am y pethau y maent wedi’u dweud neu eu gwneud yn y gorffennol, yn enwedig pan fyddant yn darllen gwybodaeth newydd neu’n sylweddoli y byddent yn mynd at bethau’n wahanol nawr. Mae hyn yn deimlad cyffredin a dealladwy. Roeddech chi’n gwneud y gorau y gallech gyda’r hyn a wyddech ar y pryd, ac nid yw dysgu ffyrdd newydd o ymateb yn golygu eich bod wedi methu. Mae’n golygu eich bod yn tyfu ochr yn ochr â’ch plentyn.
Un o’r pethau mwyaf amddiffynnol y gallwch ei wneud i’ch plentyn yw gofalu am eich rheolaeth eich hun. Pan fyddwch chi’n fwy sefydlog, mae sgyrsiau’n teimlo’n fwy diogel, mae atgyweiriadau’n digwydd yn haws, ac mae eich plentyn yn fwy abl i setlo ochr yn ochr â chi. Nid yw hyn yn ymwneud â bod yn dawel drwy’r amser. Mae’n ymwneud â chael offer sy’n eich helpu i sefydlogi eich hun ddigon i aros yn gysylltiedig.
Isod mae adnoddau wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer rhieni a gofalwyr. Maent yn canolbwyntio ar eich system nerfol, eich ymatebion emosiynol, a’r camau ymarferol sy’n eich helpu i aros wedi’ch seilio pan fo pethau’n anodd.
Nid oes angen i chi gael hyn yn berffaith. Mae rheolaeth yn rhywbeth y mae oedolion yn ei ddysgu ac yn ei ail-ddysgu dros amser, yn union fel y mae plant. Yr hyn sy’n bwysicaf yw gwybod bod eich teimladau chi’n bwysig hefyd, a bod cymryd eiliad i sefydlogi eich hun nid yn gam i ffwrdd oddi wrth eich plentyn. Mae’n gam tuag at sgwrs fwy diogel a mwy cysylltiedig.
Gwiriwch gyda chi’ch hun yn gyntaf
Cyn dechrau sgwrs, sylwch ar unrhyw deimladau, meddyliau, neu synhwyrau corfforol sy’n codi pan fyddwch chi’n meddwl am y pwnc. Gofynnwch i chi’ch hun:
- Ydy’r pwnc hwn yn achosi gofid sylweddol i mi?
- Oes gennyf brofiadau heb eu datrys sy’n gysylltiedig â’r maes hwn?
- Ydw i mewn lle y gallaf aros yn ddigon digynnwrf i glywed pethau anodd?
Os yw’r pwnc yn teimlo’n rhy agos neu’n llethol, mae hynny’n iawn. Nid chi yw’r un sy’n gorfod cael pob sgwrs. Gall perthynas dibynadwy, ffrind teulu, neu oedolyn diogel arall sydd â pherthynas dda â’ch plentyn fod yn well weithiau am bwnc penodol. Beth sy’n bwysig yw bod eich plentyn yn cael mynediad at oedolyn diogel, nid mai chi fydd hwnnw bob tro.
Codwch bynciau’n gynnar ac yn aml
Yr amser gorau i ddechrau’r sgyrsiau hyn yw cyn i’ch plentyn eu hangen, cyn iddynt ddod ar draws rhywbeth dryslyd ar-lein, cyn i bwysau cymheiriaid gicio i mewn, cyn i sefyllfa fod eisoes wedi digwydd. Mae dechrau’n gynnar yn golygu nad yw’r sgwrs yn teimlo fel ymateb argyfwng, ac mae’n dangos i’ch plentyn fod y rhain yn bynciau y gallant eu codi gyda chi.
Mae sgyrsiau byr, rheolaidd yn llawer mwy effeithiol nag un sgwrs fawr. Bob tro y byddwch chi’n codi rhywbeth, hyd yn oed yn fyr, rydych chi’n rhoi gwybod i’ch plentyn mai pwnc y gellir ei drafod yw hwn, ac un y gallant ddychwelyd ato.
Blaenoriaethwch wybodaeth dros farnau
Mae pobl ifanc yn fwy tebygol o gymryd sylw pan fyddant yn teimlo eu bod yn cael eu hysbysu yn hytrach na’u darlithio. Lle gallwch chi, seiliwch y sgwrs ar wybodaeth ffeithiol yn hytrach na barn bersonol. Cadwch eich barnau am pan fyddant wedi’u gwahodd yn benodol, a hyd yn oed wedyn, cadwch nhw’n ysgafn.
Rhowch rywfaint o reolaeth iddynt
Os ydych chi’n gwybod bod sgwrs ar y ffordd, ceisiwch roi tipyn o reolaeth i’ch plentyn dros yr amseru. Beth am ddweud: ‘Hoffwn i siarad am rywbeth. Pryd fyddai amser da i ti?’ Mae’r ystum bach hwn yn gwneud gwahaniaeth. Mae’n eu trin fel person â dylanwad, sy’n eu gwneud yn fwy tebygol o ymgysylltu’n agored.
Mae’n iawn gwneud camgymeriad
Ni allwch gael hyn yn iawn bob tro, a gall ceisio bod yn berffaith amharu ar ei wneud o gwbl. Mae gwneud rhywbeth o’i le yn rhoi cyfle i chi gymryd cam yn ôl, myfyrio, a thrwsio. Drwy ddod yn ôl a dweud ‘Dwi ddim yn meddwl aeth hynny cystal ag oeddwn i’n gobeithio. Allwn ni roi cynnig arall?’, rydych chi’n modelu rhywbeth gwerthfawr: y gellir ailnegodi sgyrsiau anodd, bod perthnasoedd yn gwella o gamgymeriadau, a bod cadw’r drws ar agor yn bwysicach na chael y cyfan yn iawn y tro cyntaf.
Am fwy ar paratoi am sgyrsiau anodd gyda plant yn eu hardddegau:
ThinkGive — Pecyn Cymorth Rheoli Emosiynau Rhieni a Gwarcheidwaid
Canllaw ymarferol am ddim sy’n cyflwyno’r fframwaith S.T.O.P. i’ch helpu i oedi, sylwi ar yr hyn sy’n digwydd yn eich corff, a dewis sut i ymateb yn hytrach na dim ond adweithio.
Finding the Calm — Canllaw Rhiant i Reoli Emosiynau (NHS Lothian)
Canllaw lawrlwythiadwy am ddim yn seiliedig ar fframwaith Zones of Regulation. Mae’n egluro pam y mae teimladau cryf yn digwydd, sut i adnabod eich arwyddion eich hun o waethygu, a’r hyn sy’n helpu i’ch dod yn ôl i le mwy sefydlog.
Beacon House — Cael Sgyrsiau Anodd gyda Phobl yn eu Harddegau Adnodd ymarferol gan Dr Felicity Williams sy’n archwilio sut i baratoi eich hun cyn sgwrs heriol, gan gynnwys sut y mae’r system nerfol yn ymateb i straen a’r hyn sy’n eich helpu i aros wedi’ch seilio.
Mae’r dulliau hyn yn cefnogi sgyrsiau pan fyddwch chi’n ceisio deall beth sydd y tu ôl i ymddygiad eich plentyn, p’un a yw pethau’n teimlo’n dynn gartref, bod rhywbeth wedi digwydd yn yr ysgol, neu eich bod wedi sylwi ar newidiadau yn sut maent yn ymddwyn gyda phobl eraill.
Dechreuwch drwy gynnig cymorth
Rhowch wybod i’ch plentyn eich bod ar eu hochr nhw. Mae teimlo bod rhywun yn gwrando heb farn yn ei gwneud hi’n fwy tebygol y byddant yn agor i fyny. Gallech ddweud: ‘Dwi ddim yma i ddweud y drefn wrthyr ti. Dwi jest eisiau deall beth sydd wedi bod yn digwydd.’
Meddyliwch am amseru
Mae sgyrsiau yn aml yn mynd yn well mewn eiliadau tawel, preifat. Gall cerdded, gyrru, neu wneud rhywbeth ochr wrth ochr greu gofod naturiol i siarad heb bwysau eistedd wyneb yn wyneb.
Gofynnwch gwestiynau agored, heb feio
Mae’r ffordd rydych chi’n agor y sgwrs yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Mae cwestiynau beio yn cau pethau i lawr; mae cwestiynau chwilfrydig yn eu hagor nhw.
Yn lle: ‘Pam wnest ti hynny?’ Ceisiwch: ‘Beth ddigwyddodd a arweiniodd at hyn?’ neu ‘Sut oeddet ti’n teimlo ar y pryd?’
Mae anogaeth syml fel ‘Elli di ddweud mwy wrthyf i?’ neu ‘Beth arall wyt ti’n meddwl oedd yn digwydd?’ yn helpu i gadw pethau’n agored ac yn arwydd eich bod chi’n wirioneddol eisiau clywed.
Ceisiwch aros yn dawel
Hyd yn oed os yw beth rydych chi’n ei glywed yn anodd. Gall ymateb cryf gau pethau i lawr, tra bo ymateb llonydd yn helpu’ch plentyn i deimlo’n ddigon diogel i barhau i siarad. Efallai na fyddant yn rhannu popeth ar unwaith, ac mae hynny’n iawn. Rydych chi’n meithrin ymddiriedaeth dros amser, nid yn datrys popeth mewn un sgwrs.
Cadwch bethau’n hydrin
Nid oes angen i chi ymdrin â phopeth ar unwaith. Canolbwyntiwch ar sut maent yn teimlo a gadewch i’r sgwrs symud ar eu cyflymder nhw. Mae iaith bob dydd yn aml yn well na thermau technegol. Gall geiriau fel ‘pwysau’, ‘cael eich gwthio i rywbeth’, neu ‘rhywun yn cymryd mantais’ fod yn haws i berson ifanc gysylltu â nhw.
Os clywch chi rywbeth sy’n peri pryder
Mae’n naturiol eisiau gweithredu’n gyflym. Mae cadw’ch plentyn yn ddiogel yn bwysig, ond mae aros yn gysylltiedig yn bwysig hefyd. Gall cymryd eiliad cyn ymateb eich helpu i’w hamddiffyn tra’n cadw ymddiriedaeth ar agor. Gallwch bob amser ddod yn ôl ato pan fyddwch wedi cael amser i feddwl.
Mae’r offer hyn yn helpu pan fydd emosiynau’n uchel, pan fydd rhywbeth eisoes wedi digwydd, neu pan fyddwch chi’n ceisio helpu’ch plentyn i ddeall effaith eu hymddygiad ar bobl eraill.
Pan fo emosiynau’n uchel
- ‘Pan fydd pethau’n poethi, beth sy’n eich helpu chi i dawelu?’
- ‘Beth wyt ti ei angen gennyf fi pan fyddi di wedi cynhyrfu neu’n ofidus?’
- ‘Beth sy’n dy helpu di fel arfer i deimlo mwy dan reolaeth eto?’
Ar ôl i rywbeth anodd ddigwydd
- ‘Rwy’n gwybod bod pethau wedi mynd yn ddwys yn gynharach. Sutwyt ti’n teimlo amdano nawr?’
- ‘Beth wyt ti’n meddwl oedd yn digwydd i ti yn y foment honno?’
- ‘Beth allai helpu tro nesaf y byddi di’n teimlo felly?’
- ‘Oes unrhyw beth rwyt ti eisiau ei wneud i wneud i bthau’n tdeimlo’n well, gartref, neu gyda’r person arall?’
Deall effaith heb gywilydd
Mae’r cwestiynau hyn yn helpu person ifanc i ddechrau meddwl am sut mae eu hymddygiad wedi effeithio ar bobl eraill. Myfyrio yw’r nod, nid euogrwydd.
- ‘Sut wyt ti’n meddwl roedd y foment honno’n teimlo i’r person arall?’
- ‘Beth wyt ti’n meddwl gallai fod ei angen arnyn nhw nawr i deimlo’n iawn eto?’
- ‘Tasai hyn yn digwydd i ti, sut byddet ti eisiau i rywun ymateb?’
Dylanwadau a phwysau
- ‘Pwy wyt ti’n teimlo dy fod ti’n ceisio creu argraff arnyn nhw neu ffitio i mewn gyda nhw’n ddiweddar?’
- ‘Oes rhywun ‘di bod yn dy annog di i ymddwyn mewn ffordd benodol?’
- ‘Wyt ti erioed yn teimlo’n dy fod ti’n cael dy wthio i bethau ti ddim yn siŵr amdanyn nhw?’
- ‘Pwy sy’n dy helpu di i deimlo dy fod ti jest yn gallu bod dy hun?’
Parch a ffiniau
- ‘Sut wyt ti’n gwybod pan fydd rhywun yn anghyfforddus?’
- ‘Sut mae parch yn edrych i ti ymhlith dy ffrindiau neu berthnasoedd?’
- ‘Sut wyt ti eisiau i bobl dy drin di, a sut wyt ti’n gallu dangos hynny i bobl eraill?’
Pan fo hi’n anodd siarad
- ‘Weithiau mae pobl yn cadw pethau i mewn achos maen nhw’n ofni cael helynt. Ydy hynny’n rhywbeth rwyt ti’n ei deimlo erioed?’
- ‘Beth fasai’n ei gwneud hi’n haws i ti ddweud wrthyf fi pan fydd rhywbeth wedi mynd o’i le?’
- ‘Dwi yma i dy helpu di i weithio pethau allan, nid dy ddal di allan.’
Mae pobl ifanc yn gwneud synnwyr o’r byd drwy negeseuon maent yn eu hamsugno’n barhaus, gan ffrindiau, yr ysgol, cyfryngau cymdeithasol, gemau, a diwylliant ehangach. Mae rhai o’r negeseuon hynny’n ddefnyddiol, ond nid felly llawer ohonynt. Mae helpu’ch plentyn i gwestiynu beth maent yn ei weld ac yn ei glywed yn un o’r pethau mwyaf pwerus gallwch chi ei wneud, nid dim ond i atal niwed, ond i’w helpu i lywio bywyd gyda hyder a doethineb.
Mae’r dull hwn yn gweithio mewn dau gam:
- Meddwl dadansoddol: gweld y patrwm. Beth yw’r neges hon yn ei ddweud mewn gwirionedd? O ble y mae’n dod? Beth mae’n ei eisiau?
- Meddwl beirniadol: ei brofi yn erbyn bywyd go iawn. A yw hyn yn dal dŵr? A yw’n wir? Beth sy’n digwydd i rywun sy’n dilyn y syniad hwn?
Nid ydych chi’n dweud wrth eich plentyn beth i’w feddwl. Rydych chi’n eu helpu i feithrin arferiad o feddwl drostynt eu hunain, sy’n llawer mwy parhaol nag unrhyw reol y gallech chi ei rhoi iddynt.
Isod mae tair enghraifft sy’n dangos sut i ddefnyddio’r dull hwn gyda gwahanol fathau o gynnwys y gallai eich plentyn ddod ar ei draws.
Enghraifft 1: Cynnwys ‘gwryw alpha’ a gwrywdod ar-lein
Mae llawer o bobl ifanc, yn enwedig bechgyn, yn dod ar draws llif o gynnwys am ‘beth mae’n ei olyfu i fod yn ddyn’. Mae’r cynnwys hwn yn aml yn cynnwys obsesiwn gyda’r gampfa, statws ariannol, oerni emosiynol, a’r neges mai ystyr cryfder yw peidio byth â dangos gwendid neu fregusrwydd. Gall deimlo’n gymhellol, yn enwedig i berson ifanc sydd eisoes yn cael anhawster gyda hyder neu hunaniaeth.
Cam 1: Meddwl dadansoddol. Gweld y patrwm.
Gofynnwch i’ch plentyn edrych ar y cynnwys hwn fel ditectif, nid gwylwyr. Gallech chi ddweud:
- ‘Gad i ni edrych ar yr ychydig fideos diwethaf rwyt ti wedi’u gweld am wrywdod neu fod yn ddyn. Beth sydd gan bob un ohonyn nhw’n gyffredin?’
Gyda’ch gilydd, efallai y byddwch chi’n sylwi:
- Golau tywyll, cerddoriaeth ymosodol, ceir drud
- Y neges nad yw ‘dynion go iawn’ yn crio, yn dangos gwendid, nac yn angen pobl eraill
- Ymdeimlad o frys: ‘mae’r rhan fwyaf o ddynion yn methu, ond nid oes rhaid i chi’
- Cynnyrch, cwrs, neu danysgrifiad yn cael ei werthu
Yna gofynnwch: ‘O ble wyt ti’n meddwl mae’r cynnwys hwn yn dod? Ydy e’n berson go iawn neu’n gyfrif sydd wedi’i gynhyrchu gan AI? Beth maen nhw’n gwerthu mewn gwirionedd?’
Mae meddwl dadansoddol yn dweud: ‘Dwi wedi sylwi ar batrwm penodol sy’n cael ei ddefnyddio i gael fy sylw ac gadw fy niddordeb.’
Cam 2: Meddwl beirniadol. A yw’n dal dŵr mewn bywyd go iawn?
Nawr cymerwch y cynhwysion hynny a phrofwch nhw yn erbyn realiti. Gallech chi ofyn:
- ‘Mae’r fideo’n dweud nad ydy dynion go iawn yn dangos emosiwn. Meddylia am y dynion rwyt ti’n eu parchu mewn gwirionedd. Ydy hynny’n wir amdanyn nhw?’
- ‘Pam wyt ti’n meddwl bod yr algorithm yn parhau i wthio’r syniad penodol yma? Ydy e eisiau i ti ddod yn berson gwell, neu ydy e eisiau i ti aros yn ddig ac yn gysylltiedig fel ei fod e’n gallu gwerthu rhywbeth i ti?’
- ‘Beth sy’n digwydd i rywun sy’n dilyn y rheol yma’n llwyr? Ydyn nhw’n bennu lan gyda pherthnasoedd gwell, neu ydyn nhw jest yn fwy unig a dan mwy o straen?’
Mae meddwl beirniadol yn dweud: ‘Mae’r patrwm a weles i’n stereoteip cul. Mae’n berfformiad wedi’i gynllunio i wneud arian, nid glasbrint am fy mywyd go iawn i.’
Enghraifft 2: Cynnwys am berthynasoedd a sut olwg sydd ar ‘gariad’ ar-lein
Mae pobl ifanc yn amsugno llawer o negeseuon am sut dylai perthnasoedd rhamantus edrych a theimlo, drwy gyfryngau cymdeithasol, cerddoriaeth, teledu, a sgyrsiau cymheiriaid. Mae peth o’r cynnwys hwn yn rhamantuso cenfigen, meddiannaeth a rheolaeth fel arwyddion o gariad. Efallai na fydd person ifanc sydd wedi tyfu i fyny gyda’r cynnwys hwn yn adnabod pan fydd perthynas go iawn yn croesi llinell.
Cam 1: Meddwl dadansoddol. Gweld y patrwm.
Gofynnwch i’ch plentyn sylwi pa fathau o berthnasoedd sy’n cael eu dangos. Gallech chi ddweud:
- ‘Sut mae’r berthynas yn y fideo, cân, neu sioe yma wir yn edrych? Beth ydy’r person yn ei wneud pan fyddan nhw’n malio am rywun?’
Gyda’ch gilydd, efallai y byddwch chi’n sylwi:
- Mae cenfigen a meddiannaeth yn cael eu fframio fel prawf o gariad: ‘Rwyf jest yn malio gormod’
- Mae un person yn newid pwy ydyn nhw i gadw’r llall yn hapus
- Mae gwrthdaro’n ddramatig ac yn ddwys, ac mae hynny’n cael ei gyflwyno fel angerdd, nid problem
- Mae’r person sy’n cael ei reoli yn ôl pob golwg yn fodlon, nid yn ofnus
Yna gofynnwch: ‘Pwy wnaeth hwn? Pa fath o berthynas ydy e’n gwneud iddi edrych yn normal neu’n ddymunol?’
Mae meddwl dadansoddol yn dweud: ‘Mae’r cynnwys yma’n dangos syniad penodol iawn i mi o sut mae cariad yn edrych, ac mae’n cadw i’w ailadrodd.’
Cam 2: Meddwl beirniadol. A yw’n dal dŵr mewn bywyd go iawn?
Nawr profwch ef yn erbyn sut y mae perthnasoedd iach yn teimlo mewn gwirionedd. Gallech chi ofyn:
- ‘Yn y perthnasoedd rwyt ti wedi’u gweld o dy gwmpas di, yn y bywyd go iawn, ddim ar-lein, ydy’r bobl sy’n caru ei gilydd yn actio fel ‘na?’
- ‘Tasai rhywun yn gwirio dy ffôn, yn dweud wrthyt ti phwy allet ti siarad gyda nhw, neu’n mynd yn flin pan wnest ti dreulio amser gyda ffrindiau, a fasai hynny’n teimlo fel cariad neu reolaeth?’
- ‘Sut faset ti’n teimlo os ti oedd y person yn y berthynas yna? Yn ddiogel neu’n bryderus?’
Mae meddwl beirniadol yn dweud: ‘Nid yw cenfigen a rheolaeth yn arwyddion o gariad. Mewn perthynas iach, mae’r ddau berson yn teimlo’n rhydd i fod eu hunain.’
Enghraifft 3: Cynnwys rhywiol a sut olwg sydd ar ‘normal’
Mae pobl ifanc yn dod ar draws cynnwys rhywiol ar-lein yn gynharach ac yn amlach nag y mae’r mwyafrif o rieni’n sylweddoli, yn aml cyn iddynt gael unrhyw brofiad go iawn o berthnasoedd neu agosatrwydd. Gall pornograffi a chynnwys cyfryngau cymdeithasol rhywiolaidd greu darlun gwyrdroedig o sut mae rhyw, caniatâd ac ymddygiad normal yn edrych. Heb wrthbwys, gall y negeseuon hyn siapio agweddau a disgwyliadau’n dawel.
Cam 1: Meddwl dadansoddol. Gweld y patrwm.
Nid oes angen i chi fod wedi gweld y cynnwys penodol i ddefnyddio’r dull hwn. Gallech chi ddweud:
- ‘Mae cynnwys rhywiol ar-lein yn tueddu i ddilyn patrymau penodol. Beth wyt ti’n meddwl ydy’r patrymau yna?’
Bydd person ifanc sydd wedi dod ar draws y cynnwys hwn yn aml yn adnabod:
- Mae pleser un person yn bwysicach o lawer na’r llall
- Nid yw dweud na neu oedi yn cael ei ddangos yn aml, neu mae’n cael ei anwybyddu
- Mae beth sy’n cael ei ddangos yn annhebyg iawn i sut y mae perthnasoedd go iawn yn teimlo
- Mae cyrff yn cael eu cyflwyno fel gwrthrychau yn hytrach na phobl gyda theimladau
Yna gofynnwch: ‘Pwy wyt ti’n meddwl sy’n gwneud y cynnwys yma, a pham? Beth maen nhw’n ceisio ei werthu, a pha lun o bobl ydy e’n ei greu?’
Mae meddwl dadansoddol yn dweud: ‘Mae’r cynnwys hwn yn dilyn fformwla benodol iawn. Nid yw’n dangos agosatrwydd go iawn. Cynnyrch ydy e.’
Cam 2: Meddwl beirniadol. A yw’n dal dŵr mewn bywyd go iawn?
Nawr cysylltwch ef â sut y mae pobl go iawn yn teimlo mewn gwirionedd a beth sydd ynghlwm wrth bberthnasoedd go iawn. Gallech chi ofyn:
- ‘Mewn perthynas go iawn gyda rhywun rwyt sydd wir yn bwysig i ti, wyt ti’n meddwl y byddai’n teimlo fel hyn?’
- ‘Sut wyt ti’n meddwl mae’r bobl yn y cynnwys yma’n teimlo mewn gwirionedd? Wyt ti’n meddwl bydden nhw’n ei ddisgrifio yn yr un ffordd?’
- ‘Sut mae caniatâd yn edrych mewn gwirionedd mewn sefyllfa go iawn? Sut faset ti’n gwybod a oedd rhywun yn gyfforddus?’
- ‘Pe bai rhywun yn disgwyl i berthynas go iawn weithio fel hyn, beth wyt ti’n meddwl fasai’n digwydd?’
Mae meddwl beirniadol yn dweud: ‘Mae beth rwy wedi’i weld ar-lein yn berfformiad, nid yn fodel. Mewn perthnasoedd go iawn, mae teimladau’r ddau berson yn bwysig, ac mae caniatâd yn barhaus, nid yn cael ei gymryd yn ganiataol.’
Nod y cwestiynau hyn yw agor sgyrsiau yn hytrach na’u cau. Maent yn gweithio orau pan fydd y naws yn chwilfrydig yn hytrach nag wrthdrawol. Rydych chi’n ceisio deall, nid croesholi.
Nid oes angen i chi eu defnyddio i gyd. Dewiswch un sy’n addas i’r eiliad.
Agor y sgwrs
- ‘Sut mae pethau wedi bod yn teimlo gartref yn ddiweddar?’
- ‘Pa fath o bethau sydd wedi bod ar dy feddwl yn ddiweddar?’
- ‘Beth ydy rhywbeth rwyt ti wedi’i weld neu’i glywed yn ddiweddar a arhosodd gyda ti?’
- ‘Ydy dy ffrindiau’n siarad am y math yma o beth? Sut wyt ti’n teimlo am hynny?’
Deall beth ddigwyddodd
- ‘Beth wyt ti meddwl oedd yn digwydd i ti ar y pryd?’
- ‘Sut oeddet ti’n teimlo ychydig cyn i bethau ddechrau?’
- ‘Beth wyt ti’n meddwl wnaeth i bethau esgyn?’
- ‘Oes unrhyw beth yn digwydd dwi ddim fallai’n gwybod amdano?’
Meddwl am beth maent yn ei weld ar-lein
- ‘Sut wyt ti’n penderfynu beth sy’n teimlo’n wir neu’n ddibynadwy?’
- ‘Awyt ti erioed wedi gweld dau berson yn dweud pethau cwbl wahanol am yr un sefyllfa?’
- ‘Beth wyt ti’n meddwl gallai’r person sy’n rhannu hwn ei eisiau?’
Pan fydd ymddygiad wedi bod yn niweidiol neu’n peri pryder
- ‘Beth wyt ti’n meddwl sy’n gwneud i bobl ymddwyn neu siarad fel ‘na?’
- ‘Sut wyt ti’n teimlo pan rwyt ti’n gweld neu’n clywed rhywbeth sy’n targedu neu’n bychanu grŵp cyfan o bobl?’
- ‘Beth faset ti’n ei wneud pe bai rhywbeth yn gwneud i ti deimlo’n anghyfforddus, neu pe bai ffrind yn dweud rhywbeth oedd ddim yn teimlo’n iawn?’
Annog myfyrio
- ‘Wyt ti’n meddwl bod cynnwys fel hyn yn gallu effeithio ar sut mae pobl yn trin ei gilydd mewn bywyd go iawn?’
- ‘Sut wyt ti’n gallu gwirio a ydy rhywbeth yn deg neu’n ddibynadwy?’
- ‘Os oeddet ti’n ansicr am rywbeth, phwy faset ti’n teimlo’n gyfforddus i siarad â nhw?’
Mae’r fframwaith hwn yn eich helpu i arafu pethau ac archwilio sefyllfa gyda’ch gilydd heb ruthro i gasgliadau neu ymatebion. Mae’n gweithio’n dda ar ôl i rywbeth ddigwydd, neu pan fyddwch chi’n ceisio helpu’ch plentyn i ddeall profiad anodd.
Nid oes angen i chi weithio drwy bob cwestiwn. Dewiswch y rhai sy’n addas.
Pwy?
- Pwy oedd yn rhan o hynny?
- Pwy allai fod wedi cael ei effeithio?
- Pwy sydd efallai’n gweld pethau’n wahanol?
Beth?
- Beth ddigwyddodd mewn gwirionedd?
- Beth ydyn ni’n ei wybod yn sicr?
- Beth arall sydd efallai’n mynd ymlaen nad wy’n gwybod amdano?
Ble?
- Digwyddodd hyn gartref, yn yr ysgol, ar-lein, neu rywle arall?
- Ydy’r lle neu’r cyd-destun yn newid unrhyw beth?
Pryd?
- Pryd dechreuodd?
- Pryd mae’n tueddu i ddigwydd? Oes patrymau?
- Pryd gallai pethau deimlo’n wahanol, neu’n haws?
Pam?
- Pam wyt ti’n meddwl y digwyddodd hyn?
- Pam fasai rhywun efallai’n ymddwyn fel ‘na? Beth allai fod yn mynd ymlaen iddyn nhw?
- Pam ydy e’n bwysig?
Sut?
- Sut gwnaeth i ti deimlo?
- Sut wyt ti’n meddwl y gwnaeth i bobl eraill deimlo?
- Sut allwn ni symud ymlaen o hyn?
Mae’r ymadroddion hyn yn eich helpu i osod terfyn clir tra’n cadw’r sgwrs ar agor, yn enwedig pan fydd eich plentyn wedi dweud rhywbeth niweidiol, amharchus, neu wedi’i ddylanwadu gan syniadau niweidiol. Nid sgriptiau ydynt, ond mannau cychwyn y gallwch eu haddasu i’ch llais eich hun.
Pan fydd ymddygiad neu iaith wedi bod yn niweidiol
- ‘Mae’n iawn teimlo’n flin, ond ‘dyw hi ddim yn iawn brifo pobl na’u dychryn. Gad i ni siarad am beth oedd yn mynd ymlaen i ti.’
- ‘Mae’r sylw yna’n bychanu rhywun. ‘Dyn ni ddim yn siarad am bobl fel ‘na yma.’
- ‘Rwyt ti’n rhwystredig. Rwy’n deall hynny. Ond ‘dyw galw enwau ar rywun ddim yn iawn.’
- ‘Mae pawb yn haeddu cael eu trin gyda pharch, hyd yn oed pan nad wyt ti’n cytuno gyda nhw.’
Pan fydd syniadau’n ymddangos eu bod dan ddylanwad cynnwys niweidiol
- ‘Efallai bod hynny’n rhywbeth rwyt ti wedi’i weld ar-lein, ond mae bywyd go iawn fel arfer yn fwy cymhleth. Gad i ni feddwl amdano gyda’n gilydd.’
- ‘Beth sy’n gwneud i ti ddweud hynny?’
- ‘O ble y daeth y syniad yna?’
- ‘Sut faset ti’n teimlo pe bai rhywun yn dweud hynny amdanat ti neu am ffrind?’
Pan fydd caniatâd neu bwysau dan sylw
- ‘Sut faset ti’n gwybod oedd rhywun yn gyfforddus gyda hynny heb ofyn iddyn nhw?’
- ‘Beth mae’n ei olygu mewn gwirionedd i sicrhau bod rhywun eisiau rhywbeth?’
- ‘Tasai rhywun yn derbyn gwneud rhywbeth ond nad oedden nhw wir eisiau ei wneud, ydy hynny’n ei wneud yn iawn?’
Pan fydd pethau’n poethi
- ‘Pan fydd pethau’n mynd yn ddwys, beth sy’n dy helpu di i dawelu? Gad i ni weithio hynny allan gyda’n gilydd.’
- ‘Dwi’n mynd i roi munud i’r ddau ohonon ni cyn i ni barhau i siarad.’
- ‘Dwi ddim yn mynd i unman. Gallwn ddod yn ôl at hyn pan fydd y ddau ohonon ni’n fwy sefydlog.’
Nid yw rhianta’n dod gyda sgript, a gall sefyllfaoedd anodd godi emosiynau cryf yn ein plith ni i gyd. Weithiau rydym ni’n ymateb mewn ffyrdd rydym yn edifarhau wedyn. Efallai y byddwn ni’n codi ein llais, yn cau sgwrs i lawr yn rhy gyflym, yn mynd yn amddiffynnol, neu’n ymateb o ofn neu rwystredigaeth. Nid yw hynny’n eich gwneud chi’n rhiant neu’n ofalwr gwael. Mae’n eich gwneud chi’n ddynol.
Mae plant a phobl ifanc yn dal i ddysgu sut i ddeall a rheoli emosiynau, ac mae oedolion yn dysgu hefyd. Un o’r pethau mwyaf pwerus y gallwch chi ei fodelu yw’r gallu i fyfyrio, trwsio, a rhoi cynnig arall arni.
Myfyrio ar ôl i bethau beidio â mynd yn dda
Pan fydd sgwrs neu sefyllfa heb fynd fel roeddech chi’n gobeithio, gall helpu i fyfyrio’n dawel ar bethau wedyn. Gallech chi ofyn i chi’ch hun:
- Beth oeddwn i’n ei deimlo yn y foment honno?
- Pa ran o’r sefyllfa hon oedd yn teimlo’n anodd i mi?
- Oedd fy mhlentyn yn teimlo fy mod i’n gwrando, ac yn ddigon diogel i siarad?
- Oeddwn i’n ymateb i beth oedd yn digwydd nawr, neu i fy mhryderon, ofnau, neu brofiadau gorffennol fy hun?
- Beth allai ein helpu ni i fynd ati’n wahanol y tro nesaf?
Nid oes rhaid i chi ei chael yn iawn y tro cyntaf
Nid oes rhaid i chi gael pethau’n iawn ar unwaith. Mewn gwirionedd, mae dangos i’ch plentyn bod oedolion yn gallu myfyrio, ymddiheuro a dysgu yn rhan bwysig o’u helpu i ddatblygu’r sgiliau hynny eu hunain.
Gallwch chi bob amser ddod yn ôl at sgwrs yn ddiweddarach. Gallech chi ddweud:
- ‘Dwi wedi bod yn meddwl am f’ymateb i’n gynharach.’
- ‘Dwi ddim yn meddwl i mi ddelio â hynny yn y ffordd orau.’
- ‘Hoffwn i ni roi cynnig arall ar y sgwrs yna.’
- ‘Rydyn ni’n dau yn dysgu sut i ddelio â sefyllfaoedd anodd.’
Sut i gamu’n ôl a rhoi cynnig arall arni
Os esgynodd sgwrs flaenorol neu os daeth i ben yn wael, nid oes rhaid i chi esgus na ddigwyddodd. Mae dod yn ôl ato, yn dawel ac yn onest, yn fodel o gyfathrebu iach ei hun. Gallech chi:
- Dewis eiliad dawel, niwtral yn hytrach na cheisio mynd yn ôl ati pan fo pethau’n dal yn dynn
- Cydnabod eich rhan chi yn gyntaf, cyn gofyn unrhyw beth i’ch plentyn
- Cadwch hi’n syml: ‘Aeth hynny ddim yn dda. Hoffwn i roi cynnig arall arni os wyt ti’n fodlon.’
- Gwahoddwch nhw i mewn i’r ateb: ‘Beth fasai’n dy helpu di i deimlo’n fwy cyfforddus yn siarad â mi am bethau fel hyn?’
Nid oes angen i’ch plentyn i chi fod yn berffaith. Mae angen iddynt wybod bod y drws yn aros ar agor, y byddwch chi’n parhau yn bresennol, ac nad yw gwneud pethau o’i le weithiau yn golygu rhoi’r gorau.
Byddwch yn garedig â chi’ch hun
Mae rhianta drwy bryder, gwrthdaro, neu ansicrwydd wir yn anodd. Mae newid yn aml yn digwydd yn raddol, drwy lawer o sgyrsiau bach dros amser, nid drwy un eiliad o dorri drwodd. Os oedd rhywbeth yn teimlo’n lletchwith, neu heb fynd fel roeddech chi’n gobeithio, mae hynny’n rhan o’r broses. Mae’r ffaith eich bod chi yma, yn darllen hwn, yn meddwl am sut i wneud yn well, eisoes yn bwysig.
Weithiau y peth pwysicaf yw nid yw cael yr ymateb perffaith ar y pryd, ond dangos i’ch plentyn bod perthnasoedd yn gallu gwella ar ôl eiliadau anodd. Bydd y wers honno, yn fwy na dim, yn aros gyda nhw.
Aros wedi’ch rheoleiddio, adnoddau i chi
- ThinkGive SEL Toolkit: Emotional Regulation – pecyn cymorth i’ch helpu chi i aros yn dawel a chefnogi eich plentyn gyda theimladau mawr.
- GIG Lothian – Finding the calm resource – canllaw i helpu rhieni i ddeall teimladau plant a strategaethau ar gyfer dod o hyd i dawelwch gyda’ch gilydd.
- Beacon House — Having Difficult Conversations with Teens – adnodd sy’n trafod sut i baratoi eich hun yn emosiynol cyn sgyrsiau anodd.
Mae ein tudalen Rwyf Am Atal Problemau hefyd yn cynnwys arweiniad am feithrin y math o gysylltiad a chyfathrebu sy’n gwneud y sgyrsiau hyn yn haws dros amser.


