
Gall camau bach nawr wneud gwahaniaeth mawr yn y dyfodol
Gall cefnogi lles plentyn ddechrau ar unrhyw adeg. P’un a yw eich plentyn yn ifanc, yn dod yn fwy annibynnol, neu eisoes yn eu harddegau, mae pethau y gallwch eu gwneud i helpu i feithrin hyder, diogelwch, parch a gwydnwch dros amser.
Nid oes eiliad berffaith i ddechrau, ac nid oes angen i chi gael popeth wedi’i drefnu. Mae’r dudalen hon yn cynnig syniadau ymarferol i’ch helpu i gryfhau cysylltiad, agor sgyrsiau, a chefnogi eich plentyn i wneud dewisiadau mwy diogel, mwy iach wrth iddynt dyfu.
Gallwch archwilio’r meysydd canlynol:
- Normau Rhywedd a Stereoteipiau
- Atal Trais ar Sail Rhywedd
- Atal Niwed Rhywiol
- Atal Perthnasoedd Afiach
- Atal Niwed Ar-lein
Os ydych yn poeni am unrhyw un o’r materion hyn ar hyn o bryd, gallwch ddysgu mwy ar ein tudalennau Rwy’n Poeni Nawr a dod o hyd i gymorth lleol ac arbenigol ar ein tudalen Cael Cymorth.
Os hoffech archwilio unrhyw un o’r themâu hyn ymhellach gyda’ch plentyn, mae ein tudalen Offer ar gyfer Siarad yn cynnwys cychwynnwyr sgwrs, canllawiau a gweithgareddau i’w defnyddio gyda phlant a phobl ifanc o bob oed.
Beth yw normau rhywedd a stereoteipiau?
Normau rhywedd yw’r rheolau answyddogol am sut mae disgwyl i fechgyn a merched, a dynion a menywod, edrych, ymddwyn, teimlo a chysylltu ag eraill. Nid cyfreithiau ydynt, ond gallant deimlo yr un mor bwerus. Maent yn siapio brth maent yn cael eu canmol amdano, beth dywedir wrthynt am ei guddio, beth maent yn credu sy’n bosibl iddynt, a sut maent yn disgwyl cael eu trin gan eraill.
Stereoteipiau rhywedd yw’r syniadau syml sy’n tyfu o’r normau hyn: y dylai bechgyn fod yn galed ac mewn rheolaeth, y dylai merched fod yn garedig ac yn ystyriol, bod dangos emosiwn yn wendid, bod gwedd yn diffinio gwerth. Mae’r rhan fwyaf o blant yn amsugno’r negeseuon hyn ymhell cyn eu bod yn ddigon hen i’w cwestiynu.
Daw’r syniadau hyn o bobman: teganau, y cyfryngau, chwaraeon, iaith, grwpiau cymheiriaid, cynnwys ar-lein, a’r oedolion o’u cwmpas. Maent mor gyfarwydd fel y gallant fod bron yn anweledig. A chan eu bod mor gyfarwydd, gallant deimlo’n ddiniwed. Nid ydynt felly.
Pam mae hyn yn bwysicach nag y gallai ymddangos
Nid yw normau rhywedd a stereoteipiau anhyblyg yn niwtral. Maent yn siapio sut mae pobl ifanc yn deall pŵer, perthnasoedd, a beth mae ganddynt hawl iddo, gyda chanlyniadau real i’r ffordd maent yn trin eraill a’r ffordd maent yn disgwyl cael eu trin.
Mae’r pyramid isod yn helpu i egluro pam mae’r pethau bob dydd mor bwysig.

Cofiwch, os ydych chi’n sylwi bod eich plentyn yn dangos ymddygiadau neu agweddau a ddisgrifir yn haen isaf y pyramid, peidiwch â chynhyrfu – nid yw hyn o reidrwydd yn golygu y bydd eu hymddygiad yn gwaethygu i gyflawni trosedd ddifrifol. Yr allwedd yw mynd i’r afael ag ymddygiadau lefel isel cyn iddynt waethygu, a gallwn helpu.
Ar waelod y pyramid mae’r agweddau, yr iaith a’r ymddygiadau sydd mor gyffredin fel nad oes neb yn eu herio yn aml: jôc wedi’i diystyru fel hwyl, dweud wrth fachgen i fod yn ddyn a stopio crïo, merch yn cael ei chanmol am fod yn dawel ac yn hynaws, dylanwadwr ar-lein sy’n siarad am fenywod fel rhai israddol. Mae’r rhain yn teimlo’n fach. Nid ydynt.
Mae’r pyramid yn dangos i ni nad yw niwed difrifol, perthnasoedd rheoli, trais ar sail rhywedd, a cham-drin, yn dod o nunlle. Mae’n eistedd ar frig strwythur llawer mwy. Ac mae popeth ar y brig yn cael ei wneud yn bosibl gan beth sy’n eistedd oddi tano.
Mae gwaelod y pyramid yn eang am fod yr agweddau a’r ymddygiadau hyn ym mhobman. Mae’r brig yn gul am fod trais difrifol yn llai cyffredin. Ond heb beth sy’n eistedd ar y gwaelod, ni all y brig sefyll.
Nid yw hyn yn ymwneud â beio. Mae’r mwyafrif o bobl sy’n ailadrodd y negeseuon hyn wedi’u hamsugno heb sylweddoli, o’u magwraeth eu hunain, o’r diwylliant o’u cwmpas, o bethau maent wedi chwerthin amdanynt neu wedi eu derbyn yn ddifeddwl. Nid yw adnabod y patrwm yr un peth â dweud eich bod yn gyfrifol am y niwed ar y brig. Mae’n ymwneud â deall bod beth sy’n digwydd ar waelod y pyramid yn bwysig, a bod ei herio, waeth pa mor fach mae’r eiliad yn teimlo, yn un o’r pethau pwysicaf a mwyaf pwerus y gall rhiant ei wneud.
Beth mae hyn yn ei olygu i chi
Mae llawer o ffyrdd bach ond ystyrlon y gallwch atal normau rhywedd a stereoteipiau rhag cynyddu’n agweddau ac ymddygiadau sy’n peri pryder, fel herio sylw rhywiaethol wrth y bwrdd bwyd, annog eich plentyn i enwi sut maent yn teimlo, neu helpu’ch plentyn i ddeall nad yw eu gwerth yn ymwneud â sut maent yn edrych neu pa mor hynaws ydynt. Nid yw’r un o’r pethau hyn yn teimlo fel ystumiau mawr, ond dyna’r union bwynt. Mae atal yn digwydd yn y bywyd bob dydd, mewn eiliadau bach, cyson sy’n meithrin dealltwriaeth, hyder a pharch dros amser.
Pethau bob dydd y gallwch eu gwneud
- Cwestiynu stereoteipiau rhywedd pan ddewch ar eu traws, mewn hysbysebu, teganau, y cyfryngau, chwaraeon, neu sgwrs
- Annog plant a phobl ifanc i fynegi emosiynau, nid dim ond eu rheoli neu eu cuddio
- Herio iaith sy’n cyfyngu beth gall plant ei deimlo, ei wneud, neu ei fod ar sail eu rhywedd
- Canmol plant a phobl ifanc am garedigrwydd, ymdrech, chwilfrydedd a dewrder, nid dim ond eu gwedd neu ufudd-dod
- Gwneud lle am gwestiynau am rywedd, hunaniaeth a thegwch
- Modelu’r math o gydraddoldeb a pharch rydych am i’ch plentyn ei fewnoli
Siarad â’ch plentyn
Nid oes angen i chi gael esboniad perffaith nac atebion i bopeth. Mae sgyrsiau am normau rhywedd yn gweithio orau pan fyddant yn chwilfrydig a pharhaus, wedi’u tanio gan rywbeth mae’ch plentyn wedi dod ar ei draws yn hytrach na’u cyflwyno fel gwers.
Efallai y byddech yn gofyn:
- ‘Pam wyt ti’n meddwl bod disgwyl i fechgyn a merched ymddwyn yn wahanol?’
- ‘A ydy rhywbeth yn deg dim ond am felly y bu hi erioed?’
- ‘Beth wyt ti’n meddwl sy’n gwneud rhywun yn gryf mewn gwirionedd?’
- ‘Pa negeseuon mae pobl ifanc yn eu cael ar-lein am sut dylen nhw edrych neu ymddwyn?’
- ‘Sut olwg fyddai arni pe bai pawb yn cael eu trin yn gyfartal?’
Adnoddau ac offer defnyddiol
Mae ein tudalen Offer ar gyfer Siarad yn cynnwys awgrymiadau cychwyn sgwrs a gweithgareddau i helpu plant i feddwl am rywedd, cydraddoldeb a pharch.
Ewch i’n tudalen Rwy’n Poeni Nawr — Misogynedd — am arweiniad ar ymateb pan fo agweddau rhywedd niweidiol eisoes yn dod i’r amlwg.
- Let Toys Be Toys — ymgyrch i herio teganau a llyfrau rhywiaethol ac ehangu syniadau plant am bwy y gallant fod
- Cymdeithas Fawcett — adroddiad Stereoteipiau Rhywedd — ymchwil ar sut mae stereoteipiau rhywedd yn cyfyngu potensial plant ac yn achosi niwed parhaol
Beth sy’n helpu i atal trais ar sail rhywedd?
Mae plant yn dechrau dysgu am rywedd, pŵer, tegwch a pherthnasoedd o oedran ifanc iawn. Maent yn sylwi ar sut mae pobl yn cael eu cyfarch, pa ymddygiad sy’n cael ei dderbyn neu ei ddistyru trwy chwerthin, a pha negeseuon maent yn eu derbyn o’r byd o’u cwmpas, ar-lein ac all-lein.
Gall helpu plant i dyfu i fyny gydag ymdeimlad cryf o gydraddoldeb, empathi a pharch, a chyda’r offer i ddeall eu teimladau eu hunain a theimladau eraill, leihau’n sylweddol risg y bydd agweddau ac ymddygiadau niweidiol yn datblygu yn ddiweddarach.
Pam mae hyn yn bwysicach nag y gallai ymddangos
Mae trais ar sail rhywedd yn aml yn tyfu o gredoau am hawl, rheolaeth ac anghydraddoldeb, credoau sy’n gwreiddio ymhell cyn i unrhyw niwed difrifol ddigwydd. Fel mae’r pyramid uchod yn dangos, mae atal yn dechrau ar y gwaelod: mewn agweddau, iaith a rhyngweithiadau bob dydd.
Y sgyrsiau byddwch yn eu cael gyda’ch plentyn nawr, am deimladau, tegwch, a sut mae pobl yn haeddu cael eu trin, yw sylfaen atal. Nid oes angen iddynt fod yn sgyrsiau mawr. Mae ond angen iddynt fod yn gyson.
Cofiwch, os ydych chi’n sylwi bod eich plentyn yn dangos ymddygiadau neu agweddau a ddisgrifir yn haen isaf y pyramid, peidiwch â chynhyrfu — nid yw hyn o reidrwydd yn golygu y bydd eu hymddygiad yn gwaethygu i gyflawni trosedd ddifrifol. Yr allwedd yw mynd i’r afael ag ymddygiadau lefel isel cyn iddynt waethygu, a gallwn helpu.

Pethau bob dydd y gallwch eu gwneud
- Herio jôcs neu sylwadau rhywiaethol yn dawel ac yn gyson
- Helpu plant i weld bod emosiynau, gan gynnwys tristwch, ofn a bregusrwydd, yn ddynol, nid yn dibynnu ar rywedd
- Atgyfnerthu bod gwerth pob plentyn yn ymwneud â phwy ydynt, nid sut maent yn edrych neu pa mor hynaws ydynt
- Modelu perthnasoedd cyfartal a pharchus mewn bywyd bob dydd
- Siarad am degwch a pharch yn aml, nid dim ond pan fo rhywbeth yn mynd o’i le
- Annog plant i siarad, cymryd lle, ac ymddiried yn eu greddf
- Helpu plant i gwestiynu beth maent yn ei weld, yn y cyfryngau, ar-lein, ac ymhlith cymheiriaid
Siarad â’ch plentyn
Helpwch nhw i enwi a deall eu teimladau
Un o’r pethau mwyaf pwerus gallwch ei wneud yw helpu’ch plentyn i feithrin llythrennedd emosiynol, y gallu i adnabod, enwi a mynegi beth maent yn ei deimlo, yn hytrach na gwthio teimladau i lawr neu eu hactio.
Mae plant sy’n gallu adnabod a mynegi eu hemosiynau mewn sefyllfa well i ymdrin â gwrthdaro, deall eraill, a meithrin perthnasoedd parchus. Heb yr eirfa hon, mae teimladau cryf yn aml yn dod allan mewn ffyrdd sy’n effeithio ar bobl eraill, weithiau’n ddifrifol.
Efallai y byddech yn:
- Enwi emosiynau’n uchel eich hun: ‘Roeddwn i’n teimlo tipyn o friw pan ddigwyddodd hynny’
- Gofyn cwestiynau teimlo yn hytrach na dim ond cwestiynau digwyddiad: ‘Sut wnaeth hynny wneud i ti deimlo?’ yn ogystal â ‘Beth ddigwyddodd?’
- Dilysu teimladau hyd yn oed pan fyddwch yn ailgyfeirio ymddygiad: ‘Gallaf weld dy fod ti’n wirioneddol flin. Mae’n iawn teimlo’n flin. ‘Dyw hi ddim yn iawn gweiddi arna i.’
- Defnyddio llyfrau, ffilmiau, neu gymeriadau fel ffordd ddiogel i mewn: ‘Sut wyt ti’n meddwl roedd y cymeriad hwnnw’n teimlo?’
- Helpu plant i weld bod enwi teimladau yn rhoi mwy o reolaeth i chi, nid llai. Mae’n gryfder, nid yn wendid.
Helpwch nhw i ddeall caniatâd a ffiniau o oedran cynnar
Nid sgwrs i bobl yn eu harddegau yn unig yw caniatâd. Mae’n dechrau ymhell cyn i blant feddwl am berthnasoedd mewn ystyr ramantus neu rywiol. Mae dysgu plant am ymreolaeth gorfforol a ffiniau personol o oedran cynnar yn rhoi’r iaith a’r hyder iddynt ddeall eu cyfyngiadau eu hunain ac i barchu rhai eraill.
Nid yw hyn yn ymwneud â gwneud plant yn ofnus neu’n amheus. Mae’n ymwneud â’u helpu nhw i ddeall bod eu corff yn perthyn iddyn nhw, bod cyrff pobl eraill yn perthyn iddynt hwythau, a bod parch yn golygu gofyn a gwrando, nid cymryd yn ganiataol.
Efallai y byddech yn:
- Gadael i blant benderfynu sut maent yn dangos hoffter. Peidiwch â mynnu eu bod yn cofleidio neu’n cusanu perthnasau os nad ydynt eisiau.
- Egluro pam: ‘Mae dy gorff yn perthyn i ti. Ti sy’n penderfynu pwy sy’n ei gyffwrdd.’
- Modelu gofyn am ganiatâd mewn eiliadau bob dydd: ‘Ga i gwtsh?’ yn hytrach na dim ond estyn am un
- Helpu plant i ddeall bod na yn golygu na, mewn gemau, wrth gosi, wrth chwarae, a phan fo rhywun yn dweud stopio, rydych yn stopio ar unwaith
- Siarad am y gwahaniaeth rhwng cyffwrdd diogel ac anniogel mewn iaith addas i’w hoedran
- Wrth iddynt fynd yn hÅ·n, ehangwch y sgwrs: ‘Mae caniatâd yn golygu bod y ddau berson eisiau gwirioneddol. Nid dim ond goddef gwneud rhywbeth, ddim yn teimlo dan bwysau, ond ei ddewis mewn gwirionedd.’
Cadwch y sgwrs i fynd
Nid oes angen i siarad â phlant am gydraddoldeb rhywedd a pharch fod yn un sgwrs fawr. Mae’n tyfu drwy eiliadau bob dydd: rhywbeth ar y teledu, sylw gan ffrind, sefyllfa maent wedi’i disgrifio o’r ysgol. Mae negeseuon bach, cyson yn fwy pwerus na sgyrsiau mawr achlysurol.
Efallai y byddech yn gofyn:
- ‘Beth wyt ti’n meddwl sy’n gwneud rhywun yn gryf?’
- ‘Ydy rhywbeth yn deg dim ond oherwydd ei fod yn gyffredin neu wedi bod felly erioed?’
- ‘Sut wyt ti’n gwybod a ydy rhywun yn gyfforddus gyda rhywbeth?’
- ‘Beth fyddet ti’n gwneud pe bai rhywbeth yn teimlo’n anghywir ond doeddet t ddim yn siŵr sut i’w ddweud?’
- ‘Pa negeseuon ydy pobl ifanc yn eu cael ar-lein am sut dylen nhw edrych neu ymddwyn?’
Adnoddau ac offer defnyddiol
Mae ein tudalen Offer ar gyfer Siarad yn cynnwys awgrymiadau cychwyn sgwrs a gweithgareddau i archwilio cydraddoldeb rhywedd a pharch gyda phlant o bob oed.
Rwy’n Poeni Nawr — Trais ar Sail Rhywedd
Ewch i’n tudalen Rwy’n Poeni Nawr — Misogynedd — am arweiniad ar ymateb i agweddau rhywedd niweidiol.
Same Side — UN Women UK — ymgyrch i helpu rhieni a gofalwyr i siarad â bechgyn a dynion ifanc am gydraddoldeb rhywedd a pherthnasoedd parchus
www.gov.wales/sound — ymgyrch i ddynion sy’n helpu i atal misogynedd drwy annog sgyrsiau am ymddygiadau niweidiol.
Ewch i’n tudalen Cael Cymorth am sefydliadau a all eich helpu gyda thrais ar sail rhywedd a materion cysylltiedig.
Beth sy’n helpu i atal niwed rhywiol?
Mae atal niwed rhywiol yn dechrau ymhell cyn bod plant yn ddigon hen i siarad am ryw neu berthnasoedd mewn termau oedolion. Mae’n dechrau drwy helpu plant i ddeall eu corff, ffiniau, preifatrwydd, empathi a dewis. Wrth iddynt dyfu’n hÅ·n, mae’r gwersi cynnar hyn yn dod yn sylfaen am ddeall caniatâd, perthnasoedd iach, a sut i drin eraill yn ddiogel ac yn barchus.
Mae plant a phobl ifanc hefyd yn cael eu dylanwadu gan beth maent yn ei weld o’u cwmpas, ar-lein, drwy gymheiriaid, yn y cyfryngau, ac yn y diwylliant ehangach. Gall sgyrsiau parhaus gydag oedolyn maent yn ymddiried ynddo eu helpu i ddeall y negeseuon hyn a meithrin agweddau iachach dros amser.
Pam mae hyn yn bwysicach nag y gallai ymddangos
Mae ymddygiad rhywiol niweidiol yn gallu datblygu pan nad yw plant neu bobl ifanc wedi cael arweiniad clir am ffiniau, caniatâd, rheoleiddio emosiynol, neu sut olwg sydd ar berthnasoedd parchus. Gallant hefyd gael eu heffeithio gan bwysau cymheiriaid, datguddiad i bornograffi, cynnwys ar-lein niweidiol, neu negeseuon sy’n normaleiddio pwysau neu hawl.
Nid yw atal yn ymwneud â chymryd yn ganiataol y bydd plentyn yn achosi niwed. Mae’n ymwneud â rhoi i bob plentyn y wybodaeth, y gwerthoedd a’r offer emosiynol sydd eu hangen arnynt i gysylltu’n ddiogel ag eraill ac i adnabod pan nad yw rhywbeth yn iawn. Mae’r sgyrsiau hyn hefyd yn helpu i amddiffyn plant rhag cael eu niweidio eu hunain.
Pethau bob dydd y gallwch eu gwneud
- Dysgu ymreolaeth gorfforol o oedran cynnar: ‘mae dy gorff yn perthyn i ti’
- Parchu pan fo plant yn dweud na am gyffwrdd, ac egluro pam rydych chi’n gwneud hyn
- Siarad am breifatrwydd a gofod personol fel cysyniadau arferol, positif
- Helpu plant i sylwi ar ac ystyried teimladau eraill mewn sefyllfaoedd bob dydd
- Dysgu’r arfer o ofyn cyn benthyg, cyffwrdd, neu rannu, gan ddechrau’n ifanc
Siarad â’ch plentyn
Nid oes angen i’r sgyrsiau hyn ddigwydd i gyd ar unwaith. Eiliadau bach, naturiol yn aml yw’r lle gorau i ddechrau, ac mae dechrau’n gynnar yn golygu bod y sgyrsiau mwy yn teimlo’n llai sydyn pan fyddant yn digwydd.
Gyda phlant iau, efallai y byddech yn siarad am:
- Rhannau preifat y corff a pham eu bod yn breifat
- Dweud ie neu na wrth gyffwrdd, a bod y ddau yn iawn
- Parchu gofod a chyrff pobl eraill
- Y gwahaniaeth rhwng cyfrinachau diogel a chyfrinachau anniogel
Gyda phlant hÅ·n neu bobl yn eu harddegau, efallai y byddech yn archwilio:
- Caniatâd a beth mae’n ei olygu mewn gwirionedd: wedi’i roi’n rhydd, wedi’i hysbysu, a pharhaus
- Pwysau mewn perthnasoedd, ar-lein ac wyneb yn wyneb
- Rhannu delweddau neu negeseuon: beth sy’n iawn a beth nad yw
- Sut i adnabod pan fo rhywbeth yn teimlo’n anghyfforddus neu’n annheg, a beth i’w wneud
- Y gwahaniaeth rhwng chwilfrydedd iach ac ymddygiad niweidiol
Efallai y byddech yn gofyn:
- ‘Sut wyt ti’n gwybod a ydy rhywun yn teimlo’n gyfforddus neu’n anghyfforddus?’
- ‘Sut olwg sydd ar barch mewn cyfeillgarwch neu berthynas?’
- ‘Beth fyddet ti’n ei wneud pe bai rhywun yn teimlo dan bwysau?’
- ‘Beth ddylai ddigwydd pan fo rhywun yn dweud na neu’n newid ei feddwl?’
Adnoddau ac offer defnyddiol
Mae ein tudalen Offer ar gyfer Siarad yn cynnwys canllawiau sgwrs a gweithgareddau addas i oedran ar ddiogelwch y corff, caniatâd a pherthnasoedd iach.
Ewch i’n tudalen Rwy’n Poeni Nawr — Ymddygiad Rhywiol Niweidiol — am arweiniad os ydych eisoes yn pryderu am ymddygiad person ifanc.
- NSPCC PANTS — y Rheol Dillad Isaf — offeryn syml, addas i oedran ar gyfer siarad â phlant iau am ddiogelwch y corff
Ewch i’n tudalen Cael Cymorth am sefydliadau arbenigol a all helpu gydag ymddygiad rhywiol niweidiol, cam-drin rhywiol ac ecsbloetio.
Beth sy’n helpu i atal perthnasoedd afiach?
Mae perthnasoedd iach yn cael eu dysgu’n raddol drwy fywyd bob dydd. Mae plant a phobl ifanc yn dysgu am gariad, ymddiriedaeth, ffiniau, gwrthdaro, cyfathrebu a pharch o’r perthnasoedd o’u cwmpas, gartref, mewn cyfeillgarwch, yn yr ysgol, ar-lein ac yn y diwylliant ehangach.
Maent yn sylwi ar sut mae pobl yn siarad â’i gilydd, sut mae anghytundebau yn cael eu trin, a yw ymddiheuriadau’n digwydd, ac a yw teimladau pawb yn bwysig. Pan fo plant yn tyfu i fyny gyda phrofiad o gysylltiad, cysondeb, empathi a ffiniau iach, mae’n fwy tebygol y byddant yn meithrin perthnasoedd parchus eu hunain wrth iddynt fynd yn hÅ·n.
Pam mae hyn yn bwysicach nag y gallai ymddangos
Mae llawer o berthnasoedd afiach nad ydynt yn dechrau gyda niwed amlwg. Gallant ddechrau gydag ymddygiadau sy’n cael eu cymysgu weithiau am ofal neu serch: cenfigen, cyswllt cyson, meddiannaeth, neu geisio rheoli beth mae rhywun yn ei wisgo, pwy maent yn ei weld, neu beth maent yn ei ddweud.
Mae rheolaeth trwy orfodaeth, patrwm o ymddygiad a ddefnyddir i ddominyddu a dychryn person arall, yn drosedd. Mae’n aml yn datblygu mor raddol fel y gall fod yn anodd ei adnabod o fewn y berthynas. Mae pobl ifanc nad ydynt wedi cael arweiniad am sut olwg sydd ar berthnasoedd iach yn fwy agored i niwed o ran profi a chyflawni’r patrymau hyn.
Heb arweiniad, gall pobl ifanc hefyd amsugno negeseuon sy’n normaleiddio deinameg afiach: bod cenfigen yn golygu cariad, bod dyfalbarhad yn ramantus hyd yn oed ar ôl i rywun ddweud na, y dylai gwrthdaro gael ei ennill yn hytrach na gweithio drwyddo. Mae atal yn golygu helpu pobl ifanc i feithrin darlun clir o sut olwg sydd ar berthnasoedd iach, cyfartal a diogel mewn gwirionedd, cyn eu bod mewn un.
Pethau bob dydd y gallwch eu gwneud
- Modelu cyfathrebu parchus gartref, gan gynnwys yn ystod anghytundebau
- Dangos y gall gwrthdaro ddigwydd heb greulondeb, ofn, neu un person bob amser yn ennill
- Ymddiheuro a gwneud iawn ar ôl gwrthdaro. Mae plant yn dysgu bod hyn yn bosibl drwy ei weld.
- Dysgu bod gan bawb yr hawl i ffiniau, preifatrwydd, a’u barn eu hunain
- Annog hyder, hunan-werth ac annibyniaeth ym mhob plentyn
- Helpu’ch plentyn i feithrin cyfeillgarwch iach fel sylfaen am berthnasoedd diweddarach
- Herio negeseuon sy’n rhamantuso rheolaeth, cenfigen neu feddiannaeth
- Siarad am sut olwg sydd ar reolaeth dan orfodaeth. Mae’r arwyddion yn cael eu trin yn fanwl ar ein tudalennau Rwy’n Poeni Nawr — Rheolaeth Dan Orfodath, sy’n trafod y cyd-destun teuluol a pherthnasoedd pobl ifanc eu hunain.
Siarad â’ch plentyn
Gall y sgyrsiau hyn, a dylent, ddechrau ymhell cyn i ddêtio ddechrau, oherwydd mae sylfeini perthnasoedd iach yn cael eu hadeiladu yn ystod plentyndod, drwy gyfeillgarwch, bywyd teuluol a rhyngweithiadau bob dydd.
Gyda phlant iau, efallai y byddech yn siarad am:
- Beth sy’n gwneud ffrind da: caredigrwydd, gwrando, tegwch, a gallu dweud sori
- Cymryd tro, parchu gofod personol, a gwneud pethau’n iawn ar ôl anghytundeb
- Y ffaith y dylai cyfeillgarwch wneud i ti deimlo’n dda amdanat ti dy hun, nid yn bryderus nac yn ansicr
Gyda phlant hÅ·n neu bobl yn eu harddegau, efallai y byddech yn archwilio:
- Sut olwg sydd ar barch mewn perthynas ddêtio, a sut olwg nad oes arno
- Y gwahaniaeth rhwng rhywun sy’n malio amdanat ti a rhywun sy’n dy reoli
- Rheolaeth dan orfodaeth: beth yw hi, sut mae’n dechrau, a pham mae’n gallu bod yn anodd ei gweld
- Pwysau, cenfigen a meddiannaeth, a pham mae’r rhain yn arwyddion rhybudd, nid arwyddion o gariad
- Caniatâd, cyfathrebu, a sut y dylai perthnasoedd deimlo: diogel, cyfartal a gwerthfawr
- Baneri gwyrdd a baneri coch: beth i chwilio amdano mewn unrhyw berthynas
Efallai y byddech yn gofyn:
- ‘Sut ddylai rhywun dy drin os ydyn nhw’n malio amdanat ti?’
- ‘Beth ydy’r gwahaniaeth rhwng cysylltu â rhywun a gwirio ar rywun?’
- ‘Sut fyddet ti’n gwybod pe bai perthynas yn teimlo’n afiach?’
- ‘Beth fyddet ti’n ei wneud pe bai ffrind yn cael ei roi dan bwysau neu ei reoli?’
- ‘Pe bai rhywun yn gwneud i ti deimlo bod rhaid i ti newid pwy wyt ti, beth fasai hynny’n ei ddweud wrthyt ti?’
Adnoddau ac offer defnyddiol
Mae ein tudalen Offer ar gyfer Siarad yn cynnwys awgrymiadau cychwyn sgwrs a gweithgareddau ar berthnasoedd iach, caniatâd ac adnabod patrymau afiach.
Rwy’n Poeni Nawr — Rheolaeth Dan Orfodaeth
Ewch i’n tudalen Rwy’n Poeni Nawr — Perthnasoedd a Dêtio — am ragor o wybodaeth am berthnasoedd iach ac afiach.
Ewch i’n tudalen Cael Cymorth am sefydliadau a all helpu gyda pherthnasoedd, cam-drin domestig a rheolaeth dan orfodaeth.
Beth sy’n helpu i atal niwed ar-lein?
Mae’r byd ar-lein yn rhan arferol o dyfu i fyny. Mae plant a phobl ifanc yn defnyddio gofodau digidol i ddysgu, cymdeithasu, chwarae, creu ac archwilio pwy ydynt. Gall bywyd ar-lein ddod â manteision gwirioneddol: cysylltiad, creadigrwydd, a mynediad at wybodaeth a chymunedau nad ydynt efallai’n eu cael yn lleol.
Ar yr un pryd, gall gofodau ar-lein ddatguddio pobl ifanc i gynnwys niweidiol, pwysau cymheiriaid, bwlio, ecsbloetio, a negeseuon afrealistig am berthnasoedd, rhywedd a hunaniaeth. Nid yw atal niwed ar-lein yn ymwneud â dileu technoleg na monitro popeth mae’ch plentyn yn ei wneud. Mae’n ymwneud â’u helpu nhw i feithrin yr hyder, y farn a’r sgiliau i lywio’r byd ar-lein yn ddiogel, gan wybod y gallant ddod atoch chi os aiff rhywbeth o’i le.
Pam mae hyn yn bwysicach nag y gallai ymddangos
Mae llawer o niweidiau ar-lein yn digwydd yn dawel neu’n adeiladu’n raddol dros amser. Efallai na fydd plentyn bob amser yn adnabod pan fo rhywbeth yn anniogel, yn fanipwlaidd, neu’n amhriodol, a gall deimlo gormod o embaras neu’n bryderus am gael helynt i ofyn am help.
Mae profiadau ar-lein hefyd yn siapio ymddygiad all-lein. Gall beth mae pobl ifanc yn ei weld ar-lein ddylanwadu ar sut maent yn meddwl am berthnasoedd, rhywedd, cyrff, gwrthdaro a pherthyn. Heb gymorth, gall negeseuon niweidiol neu sefyllfaoedd peryglus ddod yn arferol. Gyda’r sgyrsiau iawn, mae pobl ifanc yn dysgu cwestiynu beth maent yn ei weld, ymddiried yn eu greddf, a gwneud dewisiadau mwy diogel ar-lein ac all-lein.
Mae atal hefyd yn golygu helpu plant i ddeall bod eu hymddygiad ar-lein eu hunain yn bwysig, gan gynnwys sut maent yn trin eraill, beth maent yn ei rannu, a sut maent yn ymateb i bwysau gan gymheiriaid.
Pethau bob dydd y gallwch eu gwneud
- Cadw sgyrsiau rheolaidd, hamddenol am fywyd ar-lein eich plentyn: gyda phwy maent yn siarad, beth maent yn ei fwynhau, beth maent wedi’i weld
- Dangos diddordeb dilys yn y gemau, yr apiau a’r llwyfannau maent yn eu defnyddio
- Defnyddio rheolaethau rhieni a gosodiadau preifatrwydd lle bo’n briodol, ac egluro pam
- Creu cytundebau teuluol o amgylch amser sgrin, rhannu ac ymddygiad ar-lein parchus
- Dysgu iddynt sut i rwystro, distewi, adrodd a gadael sefyllfaoedd anniogel ar-lein
- Helpu nhw i feddwl yn feirniadol am ddylanwadwyr, tueddiadau a chynnwys: pwy sy’n gwneud hyn, a pham?
- Siarad am breifatrwydd a beth na ddylech chi byth ei rannu ar-lein
- Sicrhau nhw’n rheolaidd y gallant ddod atoch chi heb ofn beio na chosb. Dyma’r peth amddiffynnol mwyaf y gallwch ei wneud
Siarad â’ch plentyn
Mae’r sgyrsiau hyn yn gweithio orau pan fyddant yn barhaus ac yn isel-bwysedd, wedi’u plethu i fywyd bob dydd yn hytrach na’u cadw ar gyfer un sgwrs fawr.
Gyda phlant iau, efallai y byddech yn siarad am:
- Gofyn cyn lawrlwytho apiau neu sgwrsio â dieithriaid ar-lein
- Cadw gwybodaeth bersonol yn breifat: enw, ysgol, cyfeiriad, lluniau
- Dweud wrth oedolyn maent yn ymddiried ynddo os yw rhywbeth ar-lein yn teimlo’n ofidus, yn ddryslyd, neu’n anghywir
- Bod yn garedig i eraill ar-lein, oherwydd mae’r un rheolau’n berthnasol ag mewn bywyd go iawn
Gyda phlant hÅ·n neu bobl yn eu harddegau, efallai y byddech yn archwilio:
- Pwysau i rannu delweddau neu wybodaeth bersonol, a sut i ddweud na
- Perthnasoedd ar-lein, grŵmio, a sut gall ymddiriedaeth gael ei hadeiladu a’i hecsbloetio
- Blacmel rhywiol: beth yw hi, sut mae’n digwydd, a beth i’w wneud
- Dylanwadwyr niweidiol a chynnwys eithafol: sut i’w adnabod a’i gwestiynu
- Seiberfwlio ac ymddygiad sgwrs grŵp, gan gynnwys bod yn wyliedydd
- Sut gall dewisiadau ar-lein gael canlyniadau bywyd go iawn iddynt hwy ac eraill
Efallai y byddech yn gofyn:
- ‘Beth wyt ti’n ei fwynhau ar-lein ar hyn o bryd? Dangos i mi.’
- ‘Oes unrhyw beth ar-lein wedi gwneud i ti deimlo’n anghyfforddus neu’n ddryslyd?’
- ‘Beth fyddet ti’n ei wneud pe bai rhywun ar-lein yn gofyn am rywbeth preifat?’
- ‘Sut wyt ti’n gallu dweud os nad ydy rhywun ar-lein yn pwy maen nhw’n dweud eu bod nhw?’
- ‘Sut olwg sydd ar ymddygiad parchus ar-lein?’
- ‘Pe bai rhywbeth yn mynd o’i le ar-lein, beth fyddet ti’n ei wneud? Wrth bwy y byddet ti’n dweud?’
Adnoddau ac offer defnyddiol
Mae ein tudalen Offer ar gyfer Siarad yn cynnwys adnoddau a chanllawiau sgwrs i helpu plant a phobl ifanc i lywio’r byd ar-lein yn ddiogel ac yn feirniadol.
Ewch i’n tudalen Rwy’n Poeni Nawr — Diogelwch Ar-lein — am arweiniad ar risgiau ar-lein penodol gan gynnwys grŵmio, blacmel rhywiol a dylanwadau ar-lein niweidiol.
- Internet Matters — canllawiau ymarferol i rieni ar ystod eang o faterion diogelwch ar-lein, wedi’u trefnu yn ôl grŵp oedran
- CEOP Education — canllawiau i rieni — gan dîm Cam-drin Plant a Diogelu Ar-lein, rhan o’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol
- Childnet — siarad â’ch plentyn am ddiogelwch ar-lein — adnoddau a chanllawiau sgwrs i rieni
Ewch i’n tudalen Cael Cymorth am sefydliadau arbenigol sy’n ymdrin â diogelwch ar-lein, blacmel rhywiol, grŵmio ac ecsbloetio.


